Gwyl Rhuthun, Ruthin Festival

 

 

Gŵyl Rhuthun 2008

 

Dydd Llun, 30 o Fehefin bydd Gŵyl Rhuthun 2008 yn cychwyn.
A thrwy gydol yr wythnos bydd perfformiadau gyda'r nos wedi eu lleoli mewn gwahanol leoliadau yn y dref.
Hefyd bydd ambell berfformiad addysgiadol a chymunedol yn cael eu cynnal yn ystod y dydd.

 

Yr Uchafbwynt

 

Pinacl yr Ŵyl, yw Dop Dre, Dydd Sadwrn 5 o Orffennaf, 2008, lle bydd sgwâr San Pedr wedi
ei ymroi'n llwyr i'r Ŵyl. Bydd y llwyfannau ar y sgwâr yn leoliad diogel i'r teulu cyfan,
gyda pherfformwyr a bandiau yn diddanu'r dyrfa hyd fin nos.

 

Rhaglen yr Wythnos


Bydd cerddoriaeth o bob rhan o'r byd i'w chlywed yn ystod yr wythnos. Efallai mai sain o'r Affrig,

America, Ewrop ac yn nes adref, goreuon Cymru, i enwi dim ond ychydig o'r hyn a fu.
Os ydych chi'n mwynhau cerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth fodern, cerddoriaeth offerynnol,

unawdwyr, bandiau, grwpiau neu gorau - Rhuthun fydd y lle i chi.
Mae rhywbeth at ddant pawb o gyngerdd ffurfiol i noson o hwyl mewn tafarn - dewch yn llu!

 

Artistiaid 2008


Bydd manylion artisitiad Gŵyl Rhuthun 2008 i'w gweld yma'n fuan.
 

 

Tocynnau ar gael o Siop Elfair,

Llyfrgell Rhuthun, neu drwy

ffonio 01824 702703.

Tickets available from Siop Elfair,
Ruthin Library, or by calling
01824 702703.

Created by WebsiteukHosts.net