Heulwen a hwyl oedd yr arlwy ar Sgwâr San Pedr brynhawn ddydd Sadwrn, wrth i ddigwyddiad y flwyddyn, Top Dre gychwyn ar ei thaith. Gyda phlant, ieuenctid, oedolion a phobl hŷn yn edrych ymlaen at yr arlwy amrywiol - braf oedd gweld yr haul yn tywynnu. O Ysgol Samba Lerpwl, Dr Jazz, Joe le Taxi, Elin Fflur a'r Moniars - roedd digon i ddiddanu'r dorf. Cafwyd hwyl a bwrlwm y Moniars yn codi'r dorf ar ei thraed, caneuon baled a llais unigryw Elin Fflur, yr hen ffefrynnau gan Dr Jazz yn codi'r hwyl a dawnswyr talentog ysgol ddawns a theatr Elsber yn hudo'r dorf gyda'r hwyr. Gyda threfnu slic roedd yr artistiaid yn ymddangos yn rhwydd bob yn ail ar y ddau lwyfan i sicrhau cerddoriaeth fyw am chwe awr gyfan yn ddi-stop. Mwynhaodd rhai o'r dorf gyfarfod â ffrindiau nad ydynt yn eu gweld ond unwaith y flwyddyn ar sgwâr Rhuthun, a chafwyd gwledd o ganu i ddiddanu pawb. I eraill, dyma gyfle i flasu cerddoriaeth fyw o safon, yn rhad ac am ddim, cymdeithasu â ffrindiau a chyfoedion, gan ddod â chymuned gyfan ynghyd i fwynhau. Top Dre 2007, calon cerddoriaeth cymuned Rhuthun.
Fyddai ddim o'r Ŵyl yn bodoli heb waith dygn y pwyllgor rheoli - y cwbl yn dîm bychan ond gweithgar o wirfoddolwyr. Mae'n diolch iddynt yn enfawr.
Hefyd y prif noddwyr: |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
- Anna Kelly-Gough a Kim Wilson-Gough er cof am Jean Dyer-Gough
|
- Cymdeithas Jazz Gogledd Cymru
|
|
|
 |