| Ddydd Iau, cafodd dros 450 o blant cynradd y cyfle i brofi drama gerdd yn Theatr John Ambrose, wrth i gwmni Theatr Na-nog o Gastell-nedd berfformio yn Gymraeg ac yn Saesneg, y sioe 'Y Blaidd Mawr Drwg'. Cyfuniad o straeon y tri mochyn bach, yr hugan fach goch, a'r saith afr fach oedd y sioe, a chafodd y plant fodd i fyw wrth weld y cyffro, y lliw a'r canu ar y llwyfan. Diolch byth, dim ond eisiau ffrind oedd y blaidd mawr cas, felly gadawodd y plant y theatr yn hapus eu byd bod y blaidd yn un caredig ac annwyl yn y pen draw. Braf oedd cynnig drama yn rhan o raglen yr Ŵyl am y tro cyntaf eleni. Noson glasurol gafwyd gyda'r nos yng Nghapel Pendref, Rhuthun, gyda thriawd offerynnol
Ensemble Cymru'n gwneud yn fawr o awyrgylch tawel y capel i gyflwyno cyngerdd o gerddoriaeth ddifyr. Mwynhawyd yr arlwy yn fawr. |
Nôl yn Theatr John Ambrose, cafwyd gwledd yng nghwmni Côr Hŷn Glanaethwy, nos Wener 6 o Orffennaf, gyda'i hen ffrind Mirain Haf yn gwmni iddynt. A hithau bellach yn byw a gweithio yn Llundain, roedd gweld Mirain yn ôl ar lwyfan lleol yng ngogledd Cymru yn hyfryd. Cafwyd cyngerdd gwych, gyda phob sedd wedi ei llenwi, a thalent y bobl ifanc yn cael ei amlygu wrth gyflwyno darnau tawel disgybledig ochr yn ochr â darnau bywiog a byrlymus o sioeau cerdd. Roedd y briodas rhwng yr unawdydd ifanc a'r côr wrth gyd-berfformio yn gweddu'n berffaith. Roedd y côr yn adlewyrchiad o waith graenus y cwpl priod Cefin a Rhian Roberts, sy'n hyfforddi. |