Gwyl Rhuthun, Ruthin Festival

 

 

Gŵyl Rhuthun 2007

 

Ruthin On Stage

Cafwyd Gŵyl benigamp yn 2007, gyda llond lle o ganu a dawnsio gydol yr wythnos. Roedd amryw o binaclau drwy'r wythnos, gyda 'Rhuthun ar y Llwyfan', y Noson Jazz, Cyngerdd yr Henoed, Cyngerdd Glanaethwy, ac wrth gwrs Top Dre, yn cyrraedd yr uchelfannau, a'r tocynnau wedi eu gwerthu yn llwyr!

 

Agorwyd yr Ŵyl gyda chyngerdd arbennig iawn eleni, 'Rhuthun ar y Llwyfan', gyda bron i 300 o bobl ifanc yn perfformio ar y llwyfan gydol y nos. O'r plant iau, ysgolion Borthyn, Pen Barras, Stryd y Rhos ac Ysgol Rhuthun i'r bobl ifanc, Ysgol Brynhyfryd ac Aelwyd ac Adran Rhuthun, roedd y llwyfan dan ei sang. Cafwyd amrywiaeth o gân actol, sioeau cerdd, unawdwyr, offerynwyr, sŵn drymiau mawr yr Affrig ac ensemble offerynnol ein hofferyn cenedlaethol, y delyn, yn cynnig gwledd o adloniant i'r gynulleidfa. Jazz EveningRoedd safon y noson cystal ag unrhyw sioe o'r West End, a chafwyd bonllef o gymeradwyaeth gan y dorf ar ddiwedd y noson. Mae diolch yr Ŵyl yn mynd i holl diwtoriaid ac athrawon y bobl ifanc, a baratowyd mor drwyadl.

 

Erbyn hyn, mae'r noson sydd wedi ei neilltuo i'r jazz wedi hen ennill ei phlwyf. Cymdeithas Jazz Gogledd Cymru sy'n cydweithio â phwyllgor yr Ŵyl i hudo goreuon y maes i Gastell Rhuthun i ddiddanu'r dorf. Gwerthwyd pob tocyn i'r cyngerdd, wrth i'r sacsaffonydd cyfoes, Dave O'Higgins a band Bill Coleman gyda Brian Dee ar yr allweddellau hudo'r gwrandawyr. Roedd y fraint o groesawu gŵr mor enwog ac amryddawn yn ei faes i Ruthun yn enfawr. Hudwyd y gynulleidfa a bu canmol mawr i'r noson.

 

Ensemble Cymru, grŵp o offerynwyr safonol ddaeth i Ganolfan Awelon, Rhuthun eleni, i swyno'r henoed am y prynhawn. Yng nghanol glaw diflas, codwyd ysbryd y prynhawn wrth i driawd clarinét, fiola a phiano gynnig gwledd o gerddoriaeth oedd yn amrywio o'r clasurol i'r modern. Gydag Ensemble Cymru wedi eu lleoli ym Mangor, braf oedd croesawu Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr artistig y cwmni, i arwain y cyngerdd bychan, ac arddangos ei ddawn gyda'r clarinét. Braf oedd gweld 80 o'r henoed yn mwynhau, a chynnig y cyfle i rai ohonynt sydd yn fusgrell, gael mentro allan i gymdeithasu a phrofi'r wefr o wrando ar gerddoriaeth fyw.

 

Y dudalen nesaf

Ruthin On Stage

Tocynnau ar gael o Siop Elfair,

Llyfrgell Rhuthun, neu drwy

ffonio 01824 702703.

Tickets available from Siop Elfair,
Ruthin Library, or by calling
01824 702703.

Created by WebsiteukHosts.net