|
Cyngerdd Clasurol
Theatr John Ambrose (Ysgol Brynhyfryd), Rhuthun fydd lleoliad un o uchafbwyntiau Gŵyl Rhuthun leni, pan gynhelir y Cyngerdd Clasurol, ddydd Mercher, 28 o Fehefin, 2006.
Bydd y soprano sy'n gwneud enw iddi ei hun ym myd opera, Fflur Wyn, yn gwneud ei hymweliad cyntaf â'r ŵyl. Mae hi'n hynod o adnabyddus i eisteddfodwyr Cymru, wedi iddi ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, ychydig flynyddoedd yn ôl. Ers hynny, mae ei llwyddiannau wedi esgyn, ac mae'n cynnwys y wobr gyntaf a gwobr y gynulleidfa yng Nghystadleuaeth Cenedlaethol Handel llynedd, yn ogystal â Chanwr y Flwyddyn Cymru Llundain 2005. Ar hyn o bryd, mae Fflur yn astudio opera yn yr Academi Frenhinol ac yn ystod y flwyddyn, bydd hi'n perfformio Iphis yn Jeptha gan Handel i Opera Cenedlaethol Cymru. Mae gan y soprano o Rydaman ystod eang o berfformiadau, ac mae hi'n siŵr o daro deuddeg gyda chynulleidfa'r ŵyl â'i llais peraidd. 
Yn ymuno â Fflur ar y llwyfan bydd Dewi Ellis Jones, offerynwr taro ifanc o safon uchel o Lanfairpwll, Môn. Wedi ennill ei radd ym Mhrifysgol Cymru Bangor, llwyddodd Dewi i ennill gradd bellach ac yna diploma perfformio yn yr Ysgol Gerddoriaeth Frenhinol. Mae'n parhau â'i astudiaethau, ac yng nghanol ei Ddoctoriaeth mewn perfformiad a chyfansoddi, ac mae newydd ddechrau gweithio gyda'r pefformiwr taro enwog, Evelyn Glennie.
Mae Dewi yn arbenigo mewn canu'r marimba - idiophone 12 troedfedd sy'n creu sŵn trwy daro bariau pren gyda morthwyl bren. Mae'n creu ystod eang o seiniau sy'n emosiynol ac yn anhygoel. Mae ei berfformiadau mor amrywiol a'r offeryn mae'n ei ganu, ac mae'n cynnwys cerddoriaeth baroc i gerddoriaeth fodern. Mae o'n berfformiwr dramatig ac yn feist ar ei grefft.
Y trydydd grŵp i'w cadarnhau gogyfer y Cyngerdd Clasurol yw Celticana, pedwarawd llinynnol o Orllewin Cymru, sy'n arwain y ffordd yma yn Nghymru. Mae'r pedwarawd fenywaidd yn cynnwys Sali-Wyn, Kathryn James, Lucy Morgan a Nerys Richards. Mae'r bedair wedi astudio yn Llundain, tair yn Ysgol Gerddoriaeth y Guildhall a'r llall yn Academi Frenhinol Cerddoriaeth.
Dyma ail berfformiad Celticana yn Rhuthun, ac mae'n siŵr o greu cynnwrf. Gyda dau fiolin, fiola a soddgrwth, mae eu talent yn cynnig perfformiad amrywiol sy'n hannu o'r clasurol i'r modern.
Yn ôl Mike Baines, Cadeirydd yr ŵyl: "Mae hi'n wych gallu cynnig cerddorion safonol yn ein Cyngerdd Clasurol eleni eto. Bydd y tri perfformiwr yn cynnig cerddoriaeth anhygoel sy'n siŵr o ddenu tyrfa fawr i'r Theatr. Rydym yn edrych mlaen yn arw at y noson."
|