|
Cyngerdd Jazz mewn cydweithrediad â Chymdeithas Jazz Gogledd Cymru
Ers ei gyfnod gyda'r Benny Goodman Band, mae'r sacsaffonydd tenor, Scott Hamilton wedi perfformio mewn clybiau a gwyliau ar draws y byd. Mae'n dilyn ôl troed Ben Webster, Lester Young a Zoot Sims, ac yn cael ei adnabod fel arweinydd yn ei faes. Mae Scott wedi recordio 30 albwm, yn unigol a chyda Buddy Tate, Rosemary Clooney a Warren Vache. Mae'n cael ei glywed hefyd ar albwm Tony Bennett 'Wonderful World' a enillodd wobr Grammy.
Yn ymuno â Scott, mae The Trefor Owen Quartet, dan arweiniad gitâr, gyda Dave Saltrese (allweddell), Bill Coleman (bas dwbl) a Dave Walsh (drwm).
Noson benigamp i gefnogwyr jazz Cymru!
|