|
Deuawd yn Diddanu!
Un noson sy'n cynnig awyrgylch arbennig yn Eglwys San Pedr, yw cyngerdd gyda deuawd offerynnol a dau berfformiwr ifanc. Bydd Deian Rowlands a Nicola Phillips yn perfformio deuawd telyn a ffliwt, nos Iau, 29 o Fehefin am 7:30, fel rhan o gynllun Cerdd Byw Nawr!, sydd wedi ei greu i gefnogi cerddorion ifanc ar gychwyn eu gyrfa, ddatblygu mewn byd proffesiynol.
Sefydlwyd y ddeuawd yn 2001, ac mae'r ddau wedi teithio ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn diddanu cynulleidfaoedd. Maent yn gefnogwyr brwd o gerddoriaeth newydd, ac maent yn y gorffennol wedi comisiynu gwaith i'w berfformio fel deuawd. Mae rhai o'u perfformiadau wedi eu cynnal mewn digwyddiadau fel lansio hunangofiant John Major yn yr Hilton, ac yn Nhŷ'r Cyffredin.
Ganwyd Deian Rowlands yng Nghaerffili, De Cymru ac astudiodd yn Ysgol Gerdd a Drama'r Guildhall, Llundain. Mae ei arbenigedd ar y delyn yn golygu iddo berfformio fel uniogolyn ac mewn ensembles siambr ym Mhrydain ac Ewrop. Ymysg nifer o'i wobrau, enillodd y rhuban glas offerynnol agored yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2002. Mae wedi teithio Asia fel prif delynor London Festival Orchestra ac mae wedi perfformio yn Ffrainc, Awstria, yr Eidal, yr Almaen a Sbaen. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Deian wedi perfformio ar raglenni S4C a'r BBC gan gynnwys Wedi Saith, Noson Lawen a Songs of Praise.
Mae Nicola Phillips yn wreiddiol o Nantwich ac astudiodd hithau yn y Guildhall yn Llundain. Mae hi wedi perfformio yn unigol, mewn cerddorfa, ac fel cerddor siambr ar hyd a lled Prydain Fawr, yn ogystal â theithio Ffrainc a'r Eidal.
Yn ddiweddar, perfformiodd Nicola yn unigol o dan arweiniad Christopher Warren-Green ac mae hi wedi ymddangos yn y rhan fwyaf o neuaddau cyngerdd Llundain, gan gynnwys y Barbican, Neuadd Frenhinol Albert, St John, Sgwâr Smith a Neuadd Wigmore.
Eglura Nicola y wefr o berfformio o flaen cynulleidfa boed nhw'n hŷn neu'n ifanc: "Mae gweld ymateb ar wynebau pobl yn anhygoel; mae o'n waith sy'n rhoi cymaint nôl i chi. Ydw i'n hapus yn fy ngwaith? Y ferch hapusaf erioed!"
Dywedodd Mike Baines, Cadeirydd Gŵyl Rhuthun: "Rydyn ni'n edrych mlaen yn arw iawn i groesawu'r ddeuawd ifanc yma i Eglwys San Pedr, Rhuthun. Mae'r Eglwys yn cynnig awyrgylch wych i gerddorion, ac mae'r cwpl ifanc yma'n siŵr o blesio'r dorf!"
|