Meinir Gwilym
Daw'r gantores a'r gyfansoddwraig, Meinir Gwilym, o Langristiolus, Ynys Môn. Gyda'i llais unigryw a'i geiriau gonest, mae ei sain amrywiol yn wead o'r Celtaidd a'r acwstig, roc-gwerin a phop. Caiff ei chefnogi gan gwmni Yamaha, ac mae'n cyd-gyflwyno rhaglen geisiadau ar Radio Cymru bob prynhawn.
Joe Le Taxi
Yr arweinwyr gwreiddiol o'r ffrwydriad dawns Zydeco Prydeinig, ffurfiwyd Joe Le Taxi ym 1992. Mae'r band wedi cael dylanwad mawr yn ffyniant Zydeco ym Mhrydain, ac maent yn parhau i gyfuno symudiadau roc caled, synau arallfydol a geiriau serch anarferol i greu sain gwreiddiol sy'n denu tyrfaoedd ledled Prydain.

Baghdaddies
Yn hanu o Newcastle, mae'r Baghdaddies wedi bod yn rhyfeddu cynulleidfaoedd ar draws y wlad ers dros pum mlynedd gyda'i cyfuniad gwych o ganeuon rhythm sipsi'r Balkan a symudiadau dawns ffynci. Mae amrywiaeth eang o sain yn cael ei greu gan y cyfuniad o bump offeryn - trwmped, sacaffon, bâs, gitâr, drwm - a'r lleisiau.

Liverpool Samba School Yn fwy na grŵp taro, sefydlwyd y Liverpool Samba School dros ddeng mlynedd yn ôl gan Roger a Maeve Morris, sy'n ŵr a gwraig. Mae eu partneriaeth lwyddiannus yn cyfuno eu cariad tuag at gerddoriaeth a phopeth o Frasil. Mae'r gwisgoedd gwych sydd gan y drymwyr a'r dawnswyr yn pwysleisio'r awyrgylch bywiog a lliwgar a greir gan y band.
Never Mind the Bocs
Band amrywiol pum offeryn o ogledd Cymru, gyda Neil, Meg a Kate Browning yn brif leiswyr a Pete Walton a David Browning yn creu'r adran rhythm. Ar y cyd, mae eu hystod a phrofiad mewn cerddoriaeth roots o'r Cajun i'r ceilidh, gyda chymysgedd o'r Blues a roc gwerin, yn sicrhau perfformiad newydd ac unigryw i gerddoriaeth a chaneuon traddodiadol Gymreig.
Dr Jazz Grŵp jazz poblogaidd o Ogledd Cymru, fe glywir y band yn chwarae ar y teledu (S4C) a phrif wyliau a chlybiau jazz trwy Brydain. Maent wedi cefnogi enwau mawr dros y blynyddoedd gan gynnwys Kenny Ball, Acker Bilk a Humphrey Lyttelton. Mae'r pump aelod yn chwarae trwmped, trombĂ´n, piano, bâs a drwm.
Nawari Dancers
Dawnswyr Bol Dwyrain Canol.
|