Gwyl Rhuthun, Ruthin Festival

 

 

Sŵn y Dur a'r Drwm

 

Fand Pres Jaipur Kawa Sŵn y dur a'r drwm - dyna fydd i'w chlywed nos Lun, 26 o Fehefin yn Theatr John Ambrose, Rhuthun, yn ystod noson agoriadol Gŵyl Rhuthun 2006. Bydd y llwyfan yn dod yn fyw wrth i Fand Pres Jaipur Kawa o Rajastan, gyda'i deg artist, gynrychioli enaid a moderneiddiwch India.

 

Mae Band Pres Jaipur Kawa wedi sefydlu ei hun yn rhyngwladol, gan berfformio yn Barcelona, Fenis, Paris a'r Swistir. Roeddynt yn gymaint o lwyddiant yn Glastonbury y llynedd, maent wedi eu gwahodd i ymuno yn yr ŵyl am y penwythnos cyfan ym 2007.

 

Mae eu perfformiadau ar lwyfan neu ar stryd, yn fywiog ac yn llawn difyrwch. Mae'r trwmped a'r ffliwt yn canu'r alawon yn feistrolgar ac yn fyrfyfyr, gyda'r offerynnau taro yn ddramatig, yn gyflym ac yn cyfleu rhythm soffistigedig yr India. Mae sain y sispsi, y ddrama a'r band ei hun yn cyfleu gwychder a lliw ar lwyfan.

 

Mae Hameed Khan Kawa, yn hanu o draddodiad cerddorol pell, ac mae'r gŵr wedi byw ei fywyd drwy sŵn y band pres yn Jaipur a Paris. Mae'r band pres yn hanu'n wreiddiol o Rajastan, ac mae'n cynrychioli bywyd. Trwy ddylanwad jazz, cerddoriaeth gorllewinol a cherddoriaeth India, datblygodd Hamees y syniad o greu band pres ei hun i gyfleu sŵn band pres yr India.

 

Trwy gyfuno themâu poblogaidd ffilmiau Bollywood, cerddoriaeth traddodiadol Rajastan gyda'i sain sipsi, a cherddoriaeth glasurol Hindwstani, mae'r sain a grëir yn hollol unigryw.

 

Eglurodd Mike Baines, Cadeirydd yr Ŵyl: "Mae Band Pres Jaipur Kawa yn mynd i fod yn agoriad gwych i wythnos o gerddoriaeth amrywiol yn Rhuthun. Mae eu brwdfrydedd, eu bywiogrwydd a'u perfformiadau dramatig yn mynd i gychwyn yr Ŵyl gyda chlec. Bydd hi'n noson sy'n siŵr o aros yn y cof. Mae'r neges yn glir - dewch yn llu!"

 

Yn ôl Delyth Jones, ar ran Cadwyn Clwyd: "Mae Cadwyn Clwyd yn falch i gefnogi Gŵyl Rhuthun drwy raglen Leader + i fod o gymorth wrth gynnal yr ŵyl eto eleni. Mae'n sicr yn rhoi hwb i fusnesau'r dref ac yn dod â statws diwylliannol i ardal Rhuthun."


 

Tocynnau ar gael o Siop Elfair,

Llyfrgell Rhuthun, neu drwy

ffonio 01824 702703.

Tickets available from Siop Elfair,
Ruthin Library, or by calling
01824 702703.

Created by Eaglecrest