|
Noson Gabaret Geltaidd
Mae Noson Gabaret Geltaidd wedi ei threfnu nos Wener, 30 o Fehefin fel rhan o ddigwyddiadau Gŵyl Rhuthun, gyda dau o grwpiau gwerin mwyaf adnabyddus Cymru a'r Alban. Bydd Theatr John Ambrose yn cael ei drawsnewid i gynnal noson anffurfiol o ddiddanwch a bwyd gyda'r Tannahill Weavers o'r Alban a Phentennyn o'r Wyddgrug yn perfformio. Dylech brynu tocynnau fel criw, ac yn fuan, er mwyn sicrhau bwrdd gyda'ch cyfeillion, ar gyfer y noson.
Eglurodd Mike Baines, Cadeirydd Gŵyl Rhuthun: "Mae'r noson hon yn un newydd i'r Ŵyl, ac rydym yn ffyddiog y bydd hi'n noson lwyddiannus. Bydd y Noson Gabaret Geltaidd yn cynnig gwedd newydd i'r Ŵyl - cerddoriaeth, dawns a bwyd, fydd yn sicr o greu awyrgylch anffurfiol a hwyliog. Y peth pwysig yw prynu tocyn mewn grŵp, i sicrhau bod gennych fwrdd gyda'ch ffrindiau ar y noson!"
Mae The Tannahill Weavers yn un o fandiau traddodiaol mwyaf poblogaidd yr Alban. Mae eu cerddoriaeth yn cyfleu cerddoriaeth amrywiol y Celtiaid, i'r hen a'r ifanc. Maent yn cynnig cyfuniad unigryw o gerddoriaeth draddodiadol, rhythm gref, a lleisiau swynol sy'n gwneud eu perfformiadau yn rhai bythgofiadwy. Mae sain dwfn pibgod yr Ucheldiroedd yn linyn atgof hynafol drwy'r cyfan. Trwy gyfuno awyrgylch cyfriniol cerddoriaeth Geltaidd yr Ucheldiroedd gyda sain aflafar ar adegau, Eingl-Albanaidd yr ISeldir, mae'r Tannahill Weavers yn fand sy'n siŵr o apelio.
Cychwynnodd y band, yn dilyn sesiwn yn Paisley, yr Alban, ac enwyd y grŵp ar ôl diwydiant gwehyddu hanesyddol y dref, a'r bardd lleol Robert Tannahill. Mae'r band, bellach, wedi creu enw rhyngwladol iddynt eu hunain.
Yn perfformio ar y llwyfan gyda'r Tannahill Weavers, fydd ein band gwerin lleol Cymreig, Pentennyn o'r Wyddgrug. Eglura Gwyn Jones, sy'n canu'r ffidil, eu bod yn perfformio mewn llawer o dwmpathau
"Yn wreiddiol, datblygodd y caneuon wrth i ni lenwi'r bylchau rhwng dawnsfeydd mewn twmpathau, pan oedd y gynulleidfa wedi blino gormod i ddawnsio!"
Mae Pentennyn wedi perfformio ar hyd a lled Cymru mewn gwyliau a digwyddiadau bach a mawr. Ymysg eu huchaafbwyntiau y mae ennill yr ail wobr yn nghystadleuaeth y Grŵp Celtaidd yn Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen llynedd, a dod yn drydydd yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Tralee, yn 2004.
Mae'r tri aelod: Gwyn Jones, ar y ffidil; Bryn Peryddon Davies, acordion, a'r gitarydd, Nic Blandford, yn gerddorion o fri, sydd wedi chwarae gyda nifer o fandiau dros y blynyddoedd. Mae eu cymysgedd cerddorol yn creu sain pibgorn a chrwth sy'n sicrhau llais gwerin Cymreig i'r band, yn hytrach na thynnu ar ddylanwadau roc y 70au a'r 80au. Mae llawer o'u caneuon yn dod o gasgliadau sydd wedi eu golygu gan Robin Huw Bowen. Ac am enw'r grŵp, nid yw'r bechgyn wedi cyrraedd pen eu tennyn, ond yn hytrach daeth yr enw iddynt, yn dilyn trafodaeth dros beint yn y dafarn lleol.
|