Gwyl Rhuthun, Ruthin Festival

 

 

Gŵyl Rhuthun 2006

 

.Cafwyd Gŵyl gwerth chweil yn 2006, gyda llond lle o ganu a dawnsio gydol yr wythnos. Roedd amryw o binaclau drwy'r wythnos, gyda'r Noson Jazz, Cyngerdd yr Henoed, y Cyngerdd Clasurol, ac wrth gwrs Dop Dre, yn cyrraedd yr uchelfannau.

 

Agorwyd yr Ŵyl gyda'r band pres o Rajasthan, Jaipur Kawa Brass Band, oedd yn fwrlwm o sŵn, lliw a dawns. Agorwyd yr Ŵyl yn swyddogol gan y gŵr lleol Gweinidog Diwylliant, Y Gymraeg a Chwaraeon y Cynulliad, Alun Pugh. Cafwyd noson wych llawn synau rhythmig y drwm, canu cywrain y brodorion a'r gynulleidfa yn ymuno â'r criw i ddawnsio ar ddiwedd y noson. Dywedodd Pennaeth Cerdd Ysgol Uwchradd Brynhyfryd bod y disgyblion wedi eu hudo gan y bwrlwm pan gynhaliwyd gweithdy yn ddiweddarach yn yr wythnos gyda'r Jaipur Kawa Brass Band.

 

Erbyn hyn, mae'r cydweithrediad gyda Chymdeithas Jazz Gogledd Cymru yn un o uchafbwyntiau'r Ŵyl, ac yn 2006, doedd hynny'n ddim gwahanol. Gwerthwyd pob tocyn i'r cyngerdd, ac roedd Castell Rhuthun dan ei sang yn sŵn hudolus y sacsoffon. Mae'r sacsaffonydd tenor, Scott Hamilton yn un o feistri ei faes ac wedi perfformio mewn clybiau a gwyliau ar draws y byd. Braint ac anrhydedd i ni yng Ngŵyl Rhuthun oedd cael croesawu gŵr mor enwog ac amryddawn atom. Hudwyd y gynulleidfa a bu canmol mawr i'r noson.

 

Braint ac anrhydedd oedd cael bod yn rhan o gyngerdd a gynhaliwyd brynhawn Mercher yr Ŵyl, a hynny yng Nghanolfan Awelon, Rhuthun. Gyda'r ystafell yn orlawn o ŵyr a gwragedd hŷn, daeth Harriet Earis, gyda'i thelyn Geltaidd i ddiddanu'r gynulleidfa. Roedd hi'n amlwg o wynebau'r gynulleidfa bod Harriet wedi eu swyno gyda swyn a hud ei hofferyn llinynnol. Gyda gwên lydan a chaneuon gwerin traddodiadol, cafwyd prynhawn penigamp, cyn cael paned i ddiweddu'r wledd.

 

Y dudalen nesaf

Tocynnau ar gael o Siop Elfair,

Llyfrgell Rhuthun, neu drwy

ffonio 01824 702703.

Tickets available from Siop Elfair,
Ruthin Library, or by calling
01824 702703.

Created by WebsiteukHosts.net