|
Cliciwch ar y llun i'w ehangu.
|
Gŵyl 2005:
Ddaru ni ddweud hyn y llynedd? Efallai – ond eto eleni hon oedd y fwyaf a'r orau erioed. Perfformwyr gwych, tai llawn, trefniadaeth penigamp – a'r cyfan o fewn y gyllideb.
Cychwynnodd yr wythnos gyda'r perfformiad tramor traddodiadol – rhoddodd Black Umfolosi o Zimbabwe weithdy difyr ac addysgol ar gyfer dros 200 o blant o'r ysgolion cynradd lleol cyn perfformiad fin nos gwefreiddiol, bywiog a theimladol gyda Theatr John Ambrose yn llawn i'r ymylon.
Cafwyd perfformiad amser cinio ffraeth a diddorol yn y Manorhaus gan Peter Stevens. Fin nos Castell Rhuthun oedd y lleoliad ar gyfer y sacsoffonist gwych Alan Skidmore oedd yn perfformio gyda Phedwarawd Trefor Owen. Sicrhaodd partneriaeth yr Ŵyl gyda Chymdeithas Jazz Gogledd Cymru noson wych i dŷ llawn arall.
Dydd Mercher cawsom ddwy sioe ddymunol a gwahanol gan y ddeuawd accordion a ffidil deinamig Edward Jay ac Oliver Wilson-Dixon (New Folks) – cyn diddanu pobl wrth eu cinio yn y Manorhaus rhoesant sioe wych i'r henoed yn Awelon.
Thema 'dinasyddiaeth byd eang' yr ysgolion eleni oedd 'Dathlu Siapan' – disgyblion Pen Barras, Borthyn, Stryd y Rhos a Brynhyfryd yn derbyn hyfforddiant arbenigol cyn y sioe ac arddangosiad gwych, lliwgar yn cynnwys dawns, theatr, drymio taiko, origami, y seremoni te, argraffu sgrîn sidan a chrefft ymladd. Cymerodd bron i 150 o blant ran yn y perfformiad gan dderbyn cymeradwyaeth pawb yn y gynulleidfa lanwodd y tŷ.
Roedd tocynnau ar gyfer y cyngerdd clasurol nos Wener i gyd wedi eu gwerthu ymhell cyn y noson – yn haeddiannol felly ar gyfer dychweliad Catrin Finch – y delynores orau ar hyn o bryd mae'n debyg – a chyflwyniad Teleri-Siân, pianydd cyngerdd talentog Rhuthun, i'r Ŵyl. Cafwyd noson i'w chofio o'r ansawdd cerddorol uchaf, a roedd dosbarth meistr Catrin yn gynharach yn y dydd yn wir ysbrydoledig i'r bobl ifanc gymerodd ran.
Hyd yr oriau mân, bu Frizbee, y band roc gwobrwyol Cymreig, yn codi'r to draw yn Y Venue.
Cafwyd dau ddigwyddiad pleserus iawn yn Eglwys Sant Pedr – datganiad organ gan Philip Smith a noson gorawl gyda Chôr Toszecki 'Tryl' o Wlad Pwyl yn ymuno gyda Chôr Eglwys Sant Pedr.
I gloi, roedd Top Dre y gorau eto – y dorf fwyaf a welwyd – sawl mil? – ac o'r funud y cychwynnodd Karambasamba y rhaglen drwy orymdeithio i Sgwâr Sant Pedr parhaodd y momentwm drwy'r prynhawn a'r min nos. Diddanwyd y dorf enfawr am chwech awr gan Dr Jazz, Y Moniars, Bucket Band, Beer for Breakfast, La Strada a Chlocswyr Maes Garmon, tra bu Vagabondi Puppets yn swyno'r plant.
Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb y gwirfoddolwyr fu'n gweithio'n galed ar y pwyllgor gyda chefnogaeth tîm o gefnogwyr yn ystod yr wythnos.
Diolch mawr hefyd i'r canlynol:
Pobl Rhuthun am eu cefnogaeth gwych gydol yr wythnos ac am brynu'r tocynnau!
Cyngor y Celfyddydau
Cadwyn Clwyd
Cyngor Tref Rhuthun
Cyngor Sir Ddinbych
Live Music Now!
Cymdeithas Jazz Gogledd Cymru
Y Manorhaus
Clwb Rygbi Rhuthun
Denbighshire Free Press
Llewellyn Jones & Cwmni
Dodd's Property World
Huw Howatson
Siop Elfair
Staff Llyfrgell Rhuthun
|