Gwyl Rhuthun, Ruthin Festival

 

Cliciwch ar y llun i'w ehangu.

Cliciwch ar y llun i'w ehangu
 
nôl | nesaf

Gŵyl 2004:

Gŵyl Rhuthun – 2004 – wythnos wych.

 

Tueddwn i ddweud hyn yn flynyddol – ond at ei gilydd yn wir y tro hwn mae'n debyg – 'Hon oedd yr wyl orau gawsom erioed'.

 

Gellid cyfiawnhau hyn gan inni gael tai llawn i bron bob perfformiad, roedd safon y perfformiadau yn well o lawer na'r disgwyl ac ar gyfer Top Dre, er gwaethaf rhagolygon o law trwm, arhosodd yn sych a chynnes a disgleiriodd yr haul y rhan fwyaf o'r prynhawn.

 

Seren yr wythnos yn ddi-os oedd Catrin Finch hudodd theatr lawn gyda'i thannau ei thelyn. Roedd ei hagwedd gefnogol tuag at y telynorion ifanc yn ei dosbarth meistr yn hyfrydwch pur i bawb a'i gwelodd, gan gynnwys y rhai yn ein plith nad ydym yn canu'r delyn.

 

Cychwynnodd yr wythnos gyda'r hyn sydd bellach yn draddodiad - grwp o ddiwylliant hollol wahanol. Eleni bu APU o Beriw yn diddanu plant o ysgolion cynradd lleol yn gyntaf, ac yna gynulleidfa gyhoeddus lawn, gyda'u cymysgedd o gyfansoddiadau hynafol a chyfoes o Cuzco yn nyffryn sanctaidd yr Andes.

 

Manteisiodd dros 120 o blant o bedair ysgol yn y dref o ychydig ddyddiau o hyfforddiant gan gerddorion o gyfandir Affrica, ac yna swyno a chynhyrfu'r gynulleidfa fawr fin nos gyda'u perfformiad hwy o ddawns, drama a miwsig yn y sioe 'O Affrica!!' Mae mor galonogol gweld beth y gall plant ei gyflawni mewn amser mor fyr, yn enwedig gan ei fod yn cynnwys plant o bob gallu yn hytrach na'r ychydig mwyaf talentog.

 

Mewn digwyddiadau eraill rhoddodd Dom Duff o Lydaw ddau berfformiad cyfareddol o stori a chân o'i famwlad. Felly hefyd diddanodd y bariton Paul Carey Jones a'i gyfeilydd Helen Collyer gynulleidfaoedd yn Awelon a'r Manorhaus gydag ystod o ganeuon cyfarwydd o'r clasuron ac opera ysgafn. Gogz ac MC Saizmundo fu'n darparu'r roc trymach yn Y Venue nos Wener.

 

Yn ôl i Top Dre – roedd y dyrfa ar y sgwâr mewn hwyl dda wrth fwynhau amrywiaeth di-stop o fiwsig. Cafwyd dawnsio traddodiadol Cymreig gan Aelwyd Hafod Wenog tra dangosodd Cajuns Denbo a'r Moniars amlochredd miwsig yng Nghymru. Cafwyd blas o'r Caribî gan Pantonic All Stars Steel Orchestra o Stockport a throdd Beer for Breakfast y prynhawn yn geilidh, tra diddanodd y Wonderbrass bywiog a doniol bawb gyda'u math hwy o donau mawr cras. Gyda llawer o weithgareddau eraill yn mynd rhagddynt ar y sgwâr mwynhaodd pawb eu hunain. Pwy all anghofia y plant bach ac oedolion yn dawnsio gyda'i gilydd i sain Y Moniars tra bo'r to hþn yn tapio eu traed – yn wir diwrnod i'r holl gymuned ddod ynghyd.

 

 

 

Diolch yn FAWR i holl gefnogwyr, noddwyr a darparwyr grantiau Gwyl Rhuthun 2004, yn enwedig:

Cyngor Celfyddydau Cymru

Cadwyn Clwyd

Cyngor Tref Rhuthun

Cyngor Sir Ddinbych

Teulu Dyer-Gough

Y Manorhaus

Y Boar's Head

Denbighshire Free Press

Clwb Rygbi Rhuthun

Llewellyn Jones a'i Gwmni

Huw Howatson

Dodd's Property World

Tommy's Hair

Siop Elfair

I T Williams

Staff Llyfrgell Rhuthun

 

... a'r holl fusnesau a thrigolion eraill gyfrannodd.

 

Yn olaf, diolch i bawb o'r pwyllgor trefnu – grwp o 'amaturiaid gwirfoddol' – weithiodd mor dda gydol y flwyddyn fel bo'r wythnos yn rhedeg fel wats, ac i'r niferoedd eraill roddodd o'u hamser a'u cyngor mewn rhyw ffordd.


Tocynnau ar gael o Siop Elfair,

Llyfrgell Rhuthun, neu drwy

ffonio 01824 702703.

Tickets available from Siop Elfair,
Ruthin Library, or by calling
01824 702703.

Created by WebsiteukHosts.net