Cyngerdd Teyrnged i David Lloyd
Mae'n 40 mlynedd ers i'r llais addfwyn dawelu am byth, a hynny'n boenus o
gynnar, ac yntau'n 57 oed. I nodi'r achlysur mae Donald Lloyd - nai David
Lloyd - a'r tenor Rhys Meirion wedi trefnu cyngherddau ledled Cymru i
gofio'r canwr a swynodd genedlaethau yng Nghymru a thu hwnt.
Rhys Meirion yw un o brif denoriaid Cymru. Yn enedigol o Dremadog, mae nawr yn byw
yn Rhuthun. Wedi gyrfa gynnar fel athro ac yn dilyn cyfnod yn astudio yn Ysgol Gerdd
a Drama'r Guildhall yn Llundain, gwnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf gydag
Opera Cenedlaethol Lloegr yn 1999. Cymerodd rannau Rodolfo, Nemorino, Tamino, Y Dug
a Pinkerton.
Bu'n rhan o Opera Gorllewin Awstralia, Cymdeithas Opera Hong Kong, Opera Australia,
Opera Cenedlaethol Lithuania a'r BBC Proms, ac ymddangosodd yng ngwyliau cerdd Henley,
Cheltenham, Gogledd Cymru ac Abertawe a chyngherddau ym Marbados, Toronto, Ottawa a Florida.
Mae'n ymddangos yn gyson fel unawdydd gwadd mewn cyngherddau opera gyda'r Gerddorfa
Philharmonic Brenhinol.
Mae ei recordiau yn cynnwys
Benedictus, albwm o ddeuawdau gyda Bryn Terfel, a thair CD
unigol ar label Sain. Y tymor diwethaf, cymerodd ran Fenton yn Falstaff i Opera Cenedlaethol
Cymru a chyngherddau yn yr Ariannin ac mewn lleoliadau ar draws Prydain. Ymysg ei gynlluniau
am y dyfodol mae Lorenzo yn Fra Diavolo gydag Opera Stanley Hall a chyfres o gyngherddau
teyrnged i'r tenor Cymraeg enwog, David Lloyd.
Ganwyd Annette Bryn Parri yn Neiniolen, yng nghalon ardal y chwareli yn Arfon, a daeth i amlygrwydd yn ifanc fel pianydd,
ac fel aelod o driawd Genod Ty'r Ysgol. Graddiodd yng Ngholeg Cerdd Manceinion, ac ymunodd ag
Adran Gerdd Coleg Prifysgol Bangor fel tiwtor piano i fyfyrwyr BA a BMus.
Bu'n gyfeilydd i rai o enwau mwyaf y byd adloniant, gan gynnwys Bryn Terfel, Rebecca Evans
ac Aled Jones, a pherfformiodd gerbron Syr Andrew Lloyd Webber, Syr Georg Solti ac aelodau o'r
teulu brenhinol. Bu'n gweithio'n rheolaidd gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn ddiweddar,
ac yn unawdydd mewn cyfres o gyngherddau Corau Meibion Unedig yng Ngogledd Orllewin Lloegr.
Ers 2002, Annette yw Cyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion y Traeth. Mae'n un o sylfaenwyr-gyfarwyddwyr
Canolfan Gerdd William Mathias, ac fel cynhyrchydd a chyfeilydd bu'n gyfrifol am dros 40
o gryno-ddisgiau, gan gynnwys
Benedictus gan Bryn Terfel a Rhys Meirion, a enwebwyd
ar gyfer Gwobr y
Classical Brits yn 2006.
Côr Meibion Trelawnyd yw un o gorau meibion mwyaf Cymru gydag oddeutu 100 o
aelodau. Mae'r Côr wedi ymddangos gydag unawdwyr nodedig fel Bryn Terfel,
Rhys Meirion a Gwyn Hughes Jones ac wedi perfformio gyda bandiau enwog fel
Glofa Grimethorpe a Black Dyke.
Cafwyd llwyddiant eisteddfodol hefyd gan ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol
ar saith achlysur. Daeth y Côr yn ail allan o 50 o gorau yn 1981 yng
nghystadleuaeth Côr y Flwyddyn BBC Radio Wales ac yn ail eto yn 2005 yng
nghystadleuaeth BBC Cymru i Gorau Meibion. Ymhellach oddi cartref, cipiwyd y
wobr gyntaf yng Ngwyl Ryngwladol Eire yn Cork.
Bu'r Côr yn perfformio yn y cyngerdd Mil o Leisiau yn Neuadd Albert yn ogystal
ag mewn cyngherddau yn Ewrop a Gogledd America ac mae'n ymddangos yn aml ar y
teledu. Mae'r rhaglen amrywiol yn ymestyn o Vivaldi i Andrew Lloyd Webber, o
ganeuon gwerin i glasuron modern - nifer wedi eu trefnu gan yr Arweinydd, Geraint Roberts.