Dylan Cernyw
Cafodd Dylan ei hyfforddi gan sawl telynor enwog o Gymru ac mae'n enillydd cenedlaethol.
Bu'n enillydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar dri achlysur ac yn yr Wyl Gerdd Dant yn 1992.
Mae'n enwog fel cyfeilydd trwy Gymru ac mae galw mawr amdano mewn gwyliau ledled y wlad. Teithiodd hefyd y tu allan i Gymru - Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Canada, y Weriniaeth Tsiec, Swistir, yr Alban, Ffrainc ac Iwerddon - fel unawdydd a chyfeilydd, ac ymddangosodd ar rwydwaith y BBC. Dylan yw telynor preswyl Gerddi Bodnant a Phlas Tan y Bwlch, Maentwrog.
Bu'n unawdydd gwadd yng nghyngerdd y Mil o Leisiau yn Neuadd Albert yn 1997 pan rannodd lwyfan efo'r soprano, Rebecca Evans. Mae hefyd wedi cyfeilio i nifer o unawdwyr enwog eraill, megis Bryn Terfel, Eirian James, Shan Cothi, Gwyn Hughes Jones, Rhys Meirion, John Eifion ac Annette Bryn Parri.



