Black Umfolosi 5

Cyflwyna'r grŵp poblogaidd yma seiniau melys yr acapella gyda'u harmonïau gwych a'u canu
gospel yn ogystal â'u dawnsio bywiog yn cynnwys dawnsio 'gum boot' o Dde Affrica.
Mae Black Umfolosi yn llawn hwyl a brwydfrydedd heintus wrth berfformio ac yn llwyddo bob tro i hudo'u cynulleidfaoedd, gan eu hannog yn aml i ymuno â hwy ar y llwyfan.
Gallant hefyd gynnig gweithdai addas i unrhyw oedran. Mae'r rhain yn cynnwys dysgu stepiau dawns a rhannau lleisiol gan cyflwyno'u disgyblion i ffurfiau canu a dawnsio Zimbabwe a De Affrica.


