Noson Jazz oedd hi nos Fawrth pan ymunwyd eto â Chlwb Jazz Gogledd Cymru i gynnal cyngerdd jazz yng Nghastell Rhuthun. Seren y noson oedd y sacsoffonydd enwog, Dave O'Higgins, gyda Trefor Owen ar y gitâr a Thriawd Andrej Baranak.
Ers sawl blwyddyn bellach mae cyngerdd i'r henoed yng nghanolfan Awelon wedi bod yn ddigwyddiad rheolaidd ar ddydd Mercher yr ŵyl. Eleni, y soprano Kate Griffiths fu'n diddanu, gyda Lis Hughes yn cyfeilio.Yn yr hwyr, symudwyd i adeilad hynafol Nantclwyd y Dre ble roedd Ffrindiau Nantclwyd y Dre wedi trefnu cyngerdd yn yr ardd efo Band Tref Rhuthun dan arweiniad John Powell.
Nos Iau, cafwyd cyngerdd ar y cyd â Chlwb Cerdd Rhuthun yn Theatr John Ambrose pan gafwyd datganiad ar y piano gan y pianydd ifanc cyffrous o Rwsia, Alexander Karpeyev - cyngerdd gwych arall.Yn rhan o'r gynulleidfa ar gyfer cyngerdd nos Wener yn Theatr John Ambrose roedd 40 ymwelydd o efeilldref Rhuthun, Briec yn Llydaw. Roedd y Theatr yn llawn i fwynhau cerddoriaeth a dawns y grwp gwerin unigryw, Y Glerorfa, sydd â'i aelodau'n dod o bob rhan o Gymru.
Er y bu rhywfaint o amheuaeth am barhad canolbwynt yr ŵyl, sef Top Dre, oherwydd problemau wedi gŵyl y llynedd, penderfynwyd mynd ymlaen â'r digwyddiad gyda chydweithrediad yr heddlu ac awdurdodau trwyddedu. Gweithiodd y trefniadau newydd yn dda a chyda help y tywydd bendigedig, cafwyd un o'r goreuon eto. Gyda chymorth Cadwyn Clwyd agorwyd y digwyddiadau ar y prynhawn Sadwrn efo arddangosfa goginio gan y cogydd teledu, Dudley. Yna chafwyd 6 awr ddi-dor o gerddoriaeth a dawns gyda pherfformiadau gan Dr Jazz, Dawnswyr Pwyleg Polonez, Band Samba Batala, Yr Ods, Gwibdaith Hen Frân a Derwyddon Dr Gonzo. Roedd y cyfraniadau ariannol hefyd yn uwch nag o'r blaen, felly mae'n ymddangos fod dyfodol y digwyddiad yn ddiogel unwaith eto.Fel diweddglo i'r ŵyl ar y dydd Sul, trefnodd Eglwys Sant Pedr weithdy a chyngerdd llwyddiannus o'r Gloria gan Vivaldi.
Mewn menter newydd gan Glwb Cerdd Rhuthun lwyfannwyd perfformiad gan y gitarydd amryddawn, John Rogers ar y nos Fawrth yn y Capel Saesneg. Dangosodd ystod eang o arddulliau wrth chwarae nifer o'i addasiadau ei hun o gerddoriaeth glasurol a phoblogaidd.
Y tenor lleol poblogaidd, Trebor Edwards, oedd yn diddanu yn ein Cyngerdd i'r Henoed mewn neuadd orlawn yng Nghanolfan Awelon ar y pnawn dydd Mercher. Cyfle gwych i'r rhai sy'n ei chael yn anodd mynd allan gyda'r nos i fwynhau cerddoriaeth fyw.Ar y nos Fercher profodd Castell Rhuthun yn lleoliad perffaith i ddatganiad gan y telynor Dylan Cernyw. Cafwyd noson ardderchog a derbyniodd Dylan gymeradwyaeth frwd gan y gynulleidfa ar y diwedd.
Deva Brass Ensemble oedd yn diddanu ar y nos Iau wrth i'r ŵyl symud i leoliad newydd eto, sef Nantclwyd y Dre, ty hanesyddol wedi'i adnewyddu'n ddiweddar. Grŵp Ffrindiau Nantclwyd y Dre oedd yn gyfrifol am drefnu'r cyngerdd awyr agored, a diolch i'r arlwy poblogaidd a'r tywydd braf, daeth tyrfa niferus i fwynhau.O'r diwedd cyrhaeddodd nos Wener, a'r noson hirddisgwyliedig gyda'r tenor enwog lleol, Rhys Meirion, y pianydd a chyfeilydd amryddawn Annette Bryn-Parri ac un o gorau meibion mwyaf Gogledd Cymru, Côr Trelawnyd yn cyflwyno teyrnged i'r tenor, David Lloyd. Noson i'w chofio yn wir.
Daeth gŵyl 2009 i ben yn y dull arferol gyda cherddoriaeth a dawns Top Dre ar Sgwâr Sant Pedr ar y pnawn Sadwrn. Am y tro cyntaf ers i'r ŵyl ddechrau, cafwyd glaw i amharu ar y gweithgareddau am ryw hanner awr. Ond yn fuan, diflannodd y cymylau a daeth yr haul a'r dyrfa 'nôl i fwynhau'r Top Dre prysuraf erioed. Yn diddanu ac yn derbyn cymeradwyaeth enfawr y dorf roedd yr hen ffefrynnau, Dr Jazz; grŵp gwerin o Hwngari, y Drymwyr Shamanic; Band Tref Rhuthun a thri grŵp Cymraeg - Daniel Lloyd a Mr Pinc, Gwibdaith Hen Frân a Fflur Dafydd a'r Barf.
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol gwahoddwyd Cymdeithas Jazz Gogledd Cymru i gynnal y Noson Jazz. Eleni trefnwyd i'r gitarydd Jim Mullen a phedwarawd bytholwyrdd Trefor Owen gymryd y prif rannau yn y noson yng Nghastell Rhuthun.
Ar y trydydd diwrnod cafwyd tri arlwy gwahanol. Cyngerdd yr Henoed yn Awelon gyda Trebor Edwards, datganiad ar yr organ gan Roger Fisher a drefnwyd gan Gymdeithas Gyngerdd Sant Pedr, ac yn y nos, menter newydd yn Nantclwyd y Dre gyda Deva Brass yn diddanu a Chyfeillion Nantclwyd y Dre yn darparu'r lluniaeth.Clwb Rygbi Rhuthun oedd lleoliad y noson werin pan ddaeth y delynores, Gwenan Gibbard, i swyno pawb.
I ddifyrru'r plant cynradd, daeth Cwmni'r Arad Goch i roi perfformiadau yn y ddwy iaith o'r cynhyrchiad Twm Sion Cati. Cyfle gwych i blant ifanc brofi theatr fyw.Nos Wener, bu cyngerdd gan Gôr Rhuthun, o dan arweiniad Robat Arwyn. Cafwyd datganiadau hefyd gan ddau o unawdwyr y Côr, sef yr enillwyr cenedlaethol, Kate Griffiths a Meirion Wyn Jones.
Er nad oedd rhagolygon y tywydd yn ffafriol a bod cystadleuaeth Cwpan y Byd yn denu, daeth y tyrfaoedd ynghyd fel arfer ar gyfer Top Dre. Ynghyd â'r hen ffefrynnau, Y Moniars a Dr Jazz, roedd bandiau newydd Banda Bacana a Frizbee yn plesio'r dorf yn fawr. Yn dangos mathau gwahanol iawn o ddawnsio roedd Britannia Coconutters a Dawnswyr Pwyleg Polonez.
Cymdeithas Jazz Gogledd Cymru gydweithiodd â phwyllgor yr ŵyl i ddenu goreuon y maes i Gastell Rhuthun i'r Noson Jazz. Hudwyd y gwrandawyr gan sacsoffonydd cyfoes, Dave O'Higgins a band Bill Coleman gyda Brian Dee ar yr allweddellau.
Ensemble Cymru, grŵp o offerynwyr safonol ddaeth i Ganolfan Awelon, Rhuthun i swyno'r henoed. Cafwyd gwledd o gerddoriaeth oedd yn amrywio o'r clasurol i'r modern gan y triawd clarinét, fiola a phiano.Cafwyd perfformiad o sioe Y Blaidd Mawr Drwg gan Gwmni Theatr Na-Nog o Gastell-nedd yn Theatr John Ambrose i blant ysgolion cynradd yr ardal.
Un o uchafbwyntiau'r ŵyl oedd cyngerdd Ysgol Glanaethwy a'r unawdydd Mirain Haf yn Theatr John Ambrose. Cyngerdd gwych a thalent y bobl ifanc yn cael ei amlygu wrth gyflwyno darnau tawel disgybledig ochr yn ochr â darnau bywiog.Heulwen a hwyl oedd yr arlwy ar y Sgwâr brynhawn Sadwrn yn ystod bwrlwm Top Dre. Gydag Ysgol Samba Lerpwl, Dawnswyr Elsber, Dr Jazz, Joe le Taxi, Elin Fflur a'r Moniars yn cymryd rhan, roedd digon i ddiddanu pawb o bob oed.
Ar y Noson Jazz, roedd Castell Rhuthun dan ei sang yn sŵn hudolus sacsoffon tenor Scott Hamilton. Roedd yn fraint ac anrhydedd i ŵyl Rhuthun gael croesawu sacsoffonydd mor enwog ac amryddawn atom.
Harriet Earis fu'n diddanu'r henoed ar ei thelyn Geltaidd yng Nghanolfan Awelon. Roedd yn amlwg o wynebau'r gynulleidfa bod ei chaneuon gwerin traddodiadol wedi eu swyno.Gwefreiddiwyd y gynulleidfa yn y cyngerdd clasurol gan y perfformwyr ifanc talentog, sef y soprano, Fflur Wyn, y chwaraewr offerynnau taro, Dewi Ellis Jones a'r pedwarawd offerynnol, Celticana. Tystiodd y theatr lawn i'r perfformiadau i gyd fod yn ddiguro.
Eleni am y tro cyntaf, cynhaliwyd Cabare Celtaidd, noson ddawns, cân a bwyd. Rhannwyd y llwyfan gan y Tannahill Weavers, grŵp gwerin Albanaidd, a Phentennyn, grŵp gwerin o'r Wyddgrug a arweiniodd y gynulleidfa mewn twmpath dawns.Unwaith eto, bu uchafbwynt yr ŵyl, sef Top Dre, yn llwyddiant ysgubol gyda'r sgwâr yn symud i rythm y ddawns a'r gân. O'r Baghdaddies i Never Mind the Bocs, y Dawnswyr Nawari i Ysgol Samba Lerpwl, Dr Jazz a Meinir Gwilym - roedd rhywbeth at ddant pawb.
Castell Rhuthun oedd y lleoliad ar gyfer y Noson Jazz gyda'r sacsoffonydd gwych Alan Skidmore oedd yn perfformio gyda Phedwarawd Trefor Owen.
Cafwyd dwy sioe ddeinamig gan y ddeuawd acordion a ffidil, Edward Jay ac Oliver Wilson-Dixon (New Folks) – cyn diddanu dros ginio yn y Manorhaus rhoesant sioe wych i'r henoed yn Awelon.Fel rhan o'u thema 'dinasyddiaeth byd eang' ar Ddathlu Siapan derbyniodd tua 150 o blant o ysgolion cynradd ac uwchradd y dref hyfforddiant arbenigol mewn meysydd megis dawns, theatr, drymio taiko a chrefft Siapaneaidd, cyn cymryd rhan mewn perfformiad gyda'r nos.
Cafwyd noson glasurol benigamp gyda'r ddwy offerynwraig ifanc, Catrin Finch ar y delyn, a Teleri-Siân ar y piano. Bu'n noson i'w chofio gyda'r gerddoriaeth o'r ansawdd uchaf a bu dosbarth meistr Catrin yn gynharach yn y dydd yn ysbrydoliaeth i'r disgyblion.Digwyddiadau eraill dros y penwythnos oedd y banc roc, Frizbee, yn codi'r to yng nghlwb y Venue, ac yn Eglwys Sant Pedr - datganiad organ gan Philip Smith a noson gorawl gyda Chôr Toszecki Tryl o Wlad Pwyl a Chôr Eglwys Sant Pedr.
I gloi'r ŵyl ar Dop Dre diddanwyd y dorf enfawr am chwe awr gan Dr Jazz, Y Moniars, Bucket Band, Beer for Breakfast, La Strada a Chlocswyr Maes Garmon, tra bu Vagabondi Puppets yn swyno'r plant.



