Gŵyl sydd â rhywbeth i bawb

Tref Rhuthun
Da Capo
Tyrfa ar Dop Dre
Y Greadigaeth gan Haydn
Pnawn Sul, Mehefin 26
Gweithdy - 2.00-4.30pm
Perfformiad - 6.00pm
Eglwys Sant Pedr
Gweithdy £10 (cynnwys sgôr) | Cynulleidfa £5

Dewch i dreulio'r pnawn yn dysgu rhannau o oratorio epig Haydn, Y Greadigaeth o dan arweiniad Dr Peter Litman yn Eglwys Sant Pedr. Y gweithdy i ddechrau am 2.00pm. Dewch â sgôr o'r gwaith efo chi os yn bosib - bydd rhai copïau i'w cael ar y diwrnod. Os nad ydych am gymryd rhan, bydd cyfle i chi ddod i wylio perfformiad o'r gwaith gydag unawdwyr lleol am 6.00pm.

Un Noson ...
Theatr Ieuenctid Dyffryn Clwyd
Nos Lun, Mehefin 27
Dau berfformiad - 7.00pm a 9.00pm
Carchar Rhuthun
Oedolion £6 | Plant £4

Wrth gloi carchar Rhuthun am y noson, mae’r tawelwch yn llethol, ond am un noson mewn un flwyddyn, mae rhywbeth ar droed …

Ar un noson dyngedfennol yn nhref Rhuthun, mae brawd a chwaer gyffredin yn ffraeo. Fel pob brawd a chwaer, does neb yn cofio beth oedd gwir asgwrn y gynnen! Ond… wrth i’r brawd geisio lloches yn Yr Hen Garchar deffry Cŵn Annwn, cŵn yr arallfyd, ac yn eu sgîl daw Brenin Annwn, Arawn, yn fyw i chwilio a chasglu mwy o aelodau i ymuno â’i helfa o gŵn arallfydol. Cawn glywed hanes rhai o ysbrydion y carchar, wrth i’r chwaer fawr wneud ei gorau glas i geisio achub enaid byw ei brawd bach rhag Arawn a’i gŵn. A wnaiff hi lwyddo ...?

Darn wedi ei ymchwilio a’i greu gan bobl ifanc Dyffryn Clwyd, yn defnyddio drama, dawns a chân i ymchwilio ac i bortreadu hanes lliwgar cyn garcharorion y dref. Caiff y criw ifanc y cyfle i ymchwilio i hanes cymeriadau’r gorffennol a defnyddio’u dychymyg byw i bortreadu darn dramatig creadigol i’r gymuned leol.

… a digwydd y cyfan mewn Un Noson ...

Cyngerdd Prynhawn yn Awelon
Dydd Mercher, Mehefin 29 - 2.00pm
Canolfan Awelon
Mynediad am ddim

Ers sawl blwyddyn bellach mae'r cyngerdd i'r henoed yng nghanolfan Awelon ar ddydd Mercher yr ŵyl wedi bod yn ddigwyddiad poblogaidd iawn. Mae croeso cynnes i bawb ddod draw i fwynhau prynhawn o adloniant cerddorol.

Ffair Haf Ysgol Brynhyfryd
Nos Fercher, Mehefin 29 - 6.30pm
Ysgol Brynhyfryd
Teulu £5 | Oedolion £2 | Plant/Pensiynwyr £1

Dowch i fwynhau ffair ysgol gydag amrywiaeth o stondinau, corau, dawnswyr, bandiau a nifer o weithgareddau eraill at ddant pawb.

Cyngerdd yn yr Ardd
Nos Fercher, Mehefin 29 - 7.00pm
Nantclwyd y Dre
Tocynnau £8

Noson o adloniant yn nhŷ hynaf Rhuthun yng nghwmni Ruthin Acoustics, Manon a Lleuwen Hedd, Tocsidos Blêr a'r grŵp Mantra.

Datganiad ar y piano gan Andrew Wilde
Nos Iau, Mehefin 30 - 7.30pm
Canolfan Awelon
Oedolion £9

Datganiad gan y pianydd enwog, Andrew Wilde. Bydd yn perfformio gweithiau gan Haydn, Beethoven a Chopin.

Astudiodd Andrew Wilde efo Ryszard Bakst yng Ngholeg Cerdd Chetham's, Manceinion a graddiodd gydag anrhydedd o Goleg Cerdd Frenhinol y Gogledd.

Enillodd wobrau mewn nifer o gystadlaethau piano rhyngwladol gan gynnwys Naumburg yn Efrog Newydd (1987), Pozzoli yn Seregno, Yr Eidal (1988), William Kapell yn Maryland (1989), Dino Ciani yn Milan (1990), a Chystadleuaeth y Byd yn Llundain (1991). Yn 1985 enillodd y wobr gyntaf a'r Wobr Arbennig yng Nghystadleuaeth Piano Rhyngwladol Dudley.

Rhoddodd ddatganiadau mewn lleoliadau nodweddiadol ym Mhrydain a thramor, gan gynnwys Llundain, Manceinion, Caeredin, Warsaw, Milan, Vienna, Düsseldorf, Santiago (Chile), Washington DC, Efrog Newydd, Dallas, San Francisco, Salt Lake City, Berlin a Budapest.

Cyngerdd Da Capo
Nos Wener, Gorffennaf 1 - 7.30pm
Theatr John Ambrose
Oedolion £10 | Plant £5

Côr bychan o bobl ifanc o ardal Bangor ydi Da Capo. Mae'n cynnwys nifer o gyn-aelodau Ysgol Glanaethwy ac mae rhai yn gyn-aelodau neu'n aelodau presennol o'r rhaglen boblogaidd, Rownd a Rownd. Ffurfiwyd y côr yn 2009 ar gyfer y gyfres deledu Glanaethwy ar S4C yn dilyn eu llwyddiant ar raglen y BBC, Last Choir Standing. Mae eu rhaglen yn amrywio o ganeuon poblogaidd i rai traddodiadol, o gerdd dant i ganeuon o'r sioeau. Cafodd sawl un o'r côr lwyddiannau unigol nifer o weithiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac maent wrth eu boddau'n perfformio.

Top Dre
Dydd Sadwrn, Gorffennaf 2
2.00-8.00pm
Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun

> Mwy am Top Dre 2011

The Creation (Haydn)
The Creation (Haydn)
Theatr Ieuenctid Dyffryn Clwyd
Theatr Ieuenctid Dyffryn Clwyd
Tocsidos Blêr
Tocsidos Blêr
Andrew Wilde
Andrew Wilde
Mantra
Mantra
Da Capo
Da Capo
Top Dre
Top Dre
Logo'r ŵyl
© Gŵyl Rhuthun 2011
Gwefan gan Mari Wynne Jones