Gŵyl sydd â rhywbeth i bawb

Tref Rhuthun
Rhys Meirion
Tyrfa ar Dop Dre
Black Umfolosi 5
Nos Lun, Mehefin 29 - 7.30pm
Theatr John Ambrose, Ysgol Brynhyfryd
Oedolion £8 | Plant £4

O harmoniau gospel i ddawnsio 'gum boot', cyfareddwyd y gynulleidfa yn Rhuthun yn 2006 gan y grwp bywiog Affricanaidd yma sy'n ymuno â ni eto fel rhan o'u taith Brydeinig.
> Mwy am y grŵp

John Rogers (Gitâr)
Nos Fawrth, Mehefin 30 - 7.30pm
Capel Saesneg, Ffordd Wynnstay
Tocynnau £6

Gweithgaredd Clwb Cerdd Rhuthun. Tocynnau i'w cael gan aelodau'r Clwb Cerdd neu drwy ffonio 01824 707761.

Trebor Edwards a Beryl Lloyd Roberts
Dydd Mercher, Gorffennaf 1 - 2.00pm
Canolfan Awelon
Mynediad am ddim

Cyngerdd i'r henoed.

Dylan Cernyw (Telyn)
Nos Fercher, Gorffennaf 1 - 7.30pm
Castell Rhuthun
Tocynnau £6

Mae Dylan yn perfformio ar delynau Salvi, Venus, telyn Geltaidd a thelyn Erard Gothic. Derbyniodd ei hyfforddiant ar y delyn gan nifer o delynorion enwog Cymru ac mae wedi teithio ledled y wlad yn cynnal cyngherddau. > Mwy am Dylan

Jambori
Dydd Iau, Gorffennaf 2
Theatr John Ambrose

Jambori o ganu a hwyl ar gyfer plant ysgolion cynradd ardal Rhuthun

Deva Brass Ensemble
Nos Iau, Gorffennaf 2 - 7.00pm
Nantclwyd y Dre, Stryd y Castell
Tocynnau £6

Trefnwyd gan Ffrindiau Nantclwyd y Dre.

Cerddoriaeth Geiriau | Gweithgareddau'r Academi Gymreig
Dydd Gwener, Gorffennaf 3
Mynediad am ddim (nifer cyfyngedig)

Gweithdy Ysgrifennu Cerddoriaeth
2.00-5.00pm Llyfrgell Rhuthun
Dysgwch fwy am ysgrifennu cerddoriaeth gyda'r cerddor proffesiynol Steve Swindon.

Sesiwn Berfformio a Chanu
7.30pm Nantclwyd y Dre, Stryd y Castell

Teyrnged i David Lloyd
Nos Wener, Gorffennaf 3 - 7.30pm
Theatr John Ambrose, Ysgol Brynhyfryd
Oedolion £12 | Plant £6

Rhys Meirion, Annette Bryn Parri a Chôr Trelawnyd yn cynnal noson o gerddoriaeth er cof am y tenor enwog, David Lloyd. > Mwy am yr artistiaid

Cerddoriaeth Fictorianaidd
Dydd Sadwrn, Gorffennaf 4 - 11.00am-4.00pm
Carchar Rhuthun, Stryd Clwyd
Yn gynwysedig ym mhris mynediad Carchar Rhuthun -
Oedolion £3.50 | Consesiwn £2.50 | Teulu £10

Perfformiadau ar offerynnau traddodiadol o gerddoriaeth o'r cyfnod Fictorianaidd gyda Peter Bull.

Top Dre
Dydd Sadwrn, Gorffennaf 4
1.30pm-8.00pm
Sgwâr San Pedr

> Mwy am Top Dre 2009
Black Umfolosi 5
Black Umfolosi 5
Dylan Cernyw
Dylan Cernyw
Rhys Meirion
Rhys Meirion
Annette Bryn Parri
Annette Bryn Parri
Côr Meibion Trelawnyd
Côr Meibion Trelawnyd
Trebor Edwards
Trebor Edwards
Peter Bull
Peter Bull
Logo'r ŵyl
© Gŵyl Rhuthun 2009
Gwefan gan Mari Wynne Jones